Mae sylfaenydd Undeb Cymru a’r Byd, T Elwyn Griffiths, wedi marw yn 100 oed.

Roedd y cyn-lyfrgellydd yn wreiddiol o Landybïe, Sir Gaerfyrddin, ond fe dreuliodd y rhan fwyaf o’i oes yng Nghaeathro ger Caernarfon.

Yn 1943, tra oedd yn swyddog yn y Llu Arfog yn yr Aifft, fe sefydlodd gylchgrawn Seren y Dwyrain gyda’r nod o gysylltu’r Cymry a oedd ar wasgar ledled y byd.

Bu’r cylchgrawn yn ysgogiad iddo sefydlu Undeb y Cymry ar Wasgar yn 1948, sydd bellach yn cael ei adnabod fel Undeb Cymru a’r Byd.

Roedd T Elwyn Griffiths hefyd yn wyneb cyfarwydd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae’n debyg ei fod wedi mynychu’r Brifwyl yn ddi-dor rhwng 1948 a 2009.

Bu yn byw mewn cartref i’r henoed yn Llanfairpwll, lle dathlodd ei ben-blwydd yn 100 oed fis Mawrth.