Mae’r newyddiadurwr Guto Harri yn gobeithio “codi proffil” yr Urdd yn y blynyddoedd yn arwain at ben-blwydd y mudiad yn 100 oed yn 2022.
Fe fydd y newyddiadurwr a’r cyn bennaeth cyfathrebu yn cydweithio â’r Urdd i roi cyngor ac arweiniad i sicrhau bod gwaith dyngarol a neges heddwch y mudiad yn “hysbys” i gymunedau nad ydyn nhw’n ymwybodol o’r Urdd.
“Mae yna lot o bobol sydd ddim yn gwybod [am yr Urdd], ac mae yna lot o bobol yng Nghymru sydd ddim hyd yn oed yn gwybod am y neges heddwch,” meddai Guto Harri wrth golwg360.
Cydweithio â’r Gelli Gandryll
Un bwriad gan Guto Harri yw lledaenu neges heddwch ac ewyllys da yr Urdd ar lwyfannau rhyngwladol, ac mae’n dweud bod y gwaith hwnnw eisoes yn cael ei gyflawni wrth i’r neges honno gael ei darlledu oddi ar lwyfan Gŵyl y Gelli Gandryll eleni.
Ac maen dweud mai’r “her” i’r Urdd yn y blynyddoedd nesaf yw dewis y ffordd orau i roi “cip” i bobol o waith y mudiad, yn union fel y mae Gŵyl y Gelli Gandryll yn ei wneud ledled y byd.
“Yr iaith Gymraeg yw trysor amhrisiadwy’r Urdd, a llyfre a chreadigrwydd yw trysor gŵyl y Gelli. Ond mae Gŵyl y Gelli wedi dangos bod modd mynd a rhywbeth oedd yn digwydd mewn pabell ar y ffin â Chymru i’r byd, ac mae’r byd yn lico fe,” meddai eto.
“Yr her i’r Urdd yn ystod y ddwy neu dair blynedd nesa’ yw gweithio mas shwd, heb gyfaddawdu o gwbwl ar ran allweddol yr iaith Gymraeg, i alluogi pobol sydd ddim yn siarad Cymraeg, i gael rhyw gip ar ryw werthfawrogiad neu ymwybyddiaeth o’r diwylliant yna a be’ mae’n golygu i ni a’r byd.”