Mae teulu brenhinol Lloegr yn “dod â phobol ynghyd”, meddai cyn-weinidog gydag enwad yr Annibynwyr yng Nghaerfyrddin, sydd wedi rhannu sylwadau ysgubol ar wefan Facebook yn herio’r rheiny sy’n beirniadu’r Windsors.

Yn ôl y Parchedig Towyn Jones,  roedd priodas y Tywysog Harry a Meghan Markle y penwythnos diwethaf yn dangos nid yn unig “basiantri” y sefydliad, ond hefyd bod y teulu brenhinol wedi “moderneiddio”.

“Roedd rhyw gynhesrwydd arbennig yn perthyn i’r gwasanaeth yna, ac roedd pregeth yr Americanwr (yr Esgob Michael Curry) yn wych iawn, o’n i’n meddwl,” meddai Towyn Jones wrth golwg360.

“Fyddech chi ddim yn dychmygu y bydd priodas fel’na wedi digwydd rai blynydde yn ôl… Fe wnaeth yr esgob bwyntiau digon syml, ac eto roeddwn i’n meddwl eu bod nhw’n effeithiol.

“Roedd e’n dweud, ‘mae yna ddau wedi cwympo mewn cariad, a drychwch, r’yn ni i gyd wedi dod at ein gilydd’.”

Gwerth am arian 

Yn ei neges danllyd ar wefan Facebook, mae Towyn Jones yn cydnabod nad ei eiriau ef ei hun y mae’n eu rhannu, ond ei fod wedi dewis eu defnyddio ar ei dudalen oherwydd eu bod yn gwneud eu pwynt gystal.

“Mae’r Tywysog Harry wedi gwirfoddoli i fynd i Afghanistan ddwywaith,” meddai’r geiriau Saesneg. “Mae hefyd wedi sefydlu gemau Invictus ar gyfer helpu cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu. Mae ei deulu’n dod â £400m o arian refeniw i mewn bob blwyddyn, ac mae’r llywodraeth yn cael cadw £360m o hynny…

“Mae’r teulu brenhinol yn dod â £1.8bn o arian i mewn trwy dwristiaeth,” meddai ymhellach. “Mae’r wlad yn elwa o £2.1bn y flwyddyn. Atgoffwch fi eto sut mae’r briodas frenhinol yn gwastraffu arian y trethdalwr?

“Arian preifat a’r Royal Heritage sy’n talu am y briodas, ac nid y trethdalwr… ac mae hynny’n cynnwys ei ffrog hi (Meghan Markle) hefyd! Mae’r trethdalwr yn talu am ddiogelwch y cyhoedd… yn yr un ffordd ag y mae’r trethdalwr yn talu am ddiogelwch y cyhoedd mewn gemau pêl-droed ac ati.

“Paid â bod yn sombi a chredu popeth wyt ti’n ei weld a’i ddarllen ar y we, gwna ychydig o ymchwil cyn rhannu propaganda. Licio fe neu beidio, mae’r teulu brenhinol yn draddodiad Prydeinig ac yn eicon. (Nid fy ngeiriau fy hun, ond wedi’i ddweud yn dda!)”

Parchu’r Frenhiniaeth

Mae Towyn Jones yn dweud ei fod wedi bod â pharch tuag at y Frenhiniaeth ers dod o dan ddylanwad athro ysgol a oedd â “gwleidyddiaeth go radical”, ond yn “gredwr cryf yn y teulu brenhinol” ar yr un pryd.

Mae hefyd yn cofio sut y gwnaeth seremoni coroni Elizabeth II yn 1953 ddod â phobol bro ei febyd ger Castellnewydd Emlyn ynghyd.

“Roedd y Coroni pan oeddwn i’n blentyn, ac roedd yna dân ar Y Bryn yn Nyffryn Teifi uwchben Castellnewydd Emlyn lle ces i fy magu,” meddai eto.

“Noson y Coroni, roedd yna dorf enfawr yna. Roedden nhw’n bendant yn Saesneg a Chymraeg, o bob oedran, ac yn sicr o bob parti gwleidyddol… Roedd y Frenhiniaeth yn tynnu tipyn o bob un at ei gilydd, o bob iaith a phopeth, heb unrhyw anhawster.”