Mae eitemau o bentref Capel Celyn wedi cael eu rhoi yng ngofal Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan heddiw (dydd Llun, Mai 21).

Mae’r eitemau, sy’n cynnwys cloch, allwedd a lamp yr ysgol, ynghyd â dwy lamp o’r capel, wedi cael eu rhoi i’r casgliad cenedlaethol gan Gwyn Roberts a’i ferched, Nia Erain Griffith a Lois Elenid John.

Roedd mam Gwyn Roberts, y diweddar Martha Roberts, yn brifathrawes Ysgol Capel Celyn rhwng 1957 a 1963.

Fe dderbyniodd hi’r eitemau yn sgil boddi Cwm Tryweryn yn 1965, a hynny er mwyn creu cronfa i gyflenwi dŵr i ddinas Lerpwl.

Cofio Capel Celyn

Mae Gwyn Roberts a’i ferched wedi penderfynu trosglwyddo’r eitemau i ofal Amgueddfa Werin Cymru er mwyn i genedlaethau’r dyfodol “dysgu a chofio” am Gapel Celyn.

“Er bod y creiriau hyn yn rhan o hanes ein teulu, ac yn ddolen fyw rhyngom a thrasiedi chwalu Capeli Celyn, roeddem yn ymwybodol eu bod hefyd o bwysigrwydd cenedlaethol,” meddai.

“Pleser yw eu cyflwyno i ofal Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn y gobaith y byddant yn fodd i ymwelwyr y dyfodol ymdeimlo â thristwch colli brwydr y boddi.

“Er hynny, fel yr oedd Mam yn cael boddhad o ddweud dro ar ôl tro wrth blant yr ysgol, ‘Cymru biau’r dŵr rŵan, a ni ddaru ennill yn y diwedd!”