Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi y bydd refferendwm yn cael ei gynnal rhwng Mai 29 a Mehefin 1 i benderfynu a fydd rôl y Swyddog Cymraeg yn cael ei newid o fod yn un rhan amser i fod yn un llawn amser.
Daw’r cyhoeddiad ar ôl cyfarfod ddechrau’r mis, pan gafodd cynnig ei gyflwyno yn galw am refferendwm, er bod cryn dipyn o wrthwynebiad yn ystod trafodaeth.
Ond fe gafodd y cynnig ei basio yn y pen draw, ac fe fydd myfyrwyr nawr yn cael y cyfle i ateb y cwestiwn ‘A ddylai swydd y Swyddog Materion Cymraeg Rhan-amser gael ei amnewid â Swyddog Materion Cymraeg Llawn-amser, yn dechrau yn y flwyddyn academaidd 2019/2020?”
Ymgyrchu
Mae disgwyl i fyfyrwyr ymgyrchu o blaid ac yn erbyn y swyddog yng ngham nesa’r broses, ac fe fydd y naill ochr a’r llall yn derbyn £100 yr un at eu hymgyrchoedd.
Fe fydd gan y naill ochr a’r llall dri swyddog yn gyfrifol am yr ymgyrchoedd, a bydd yr ymgyrchu’n digwydd rhwng Mai 28 a Mehefin 1, a’r bleidlais rhwng 9 o’r gloch fore Mercher, Mai 30 a 3 o’r gloch brynhawn Gwener, Mehefin 1.
Mae disgwyl i’r canlyniad gael ei gyhoeddi ar Fehefin 1.
Y bleidlais
Fe fydd gan bob myfyriwr – Cymraeg neu beidio – yr hawl i bleidleisio, ac mae’n rhaid i 3% o’r holl fyfyrwyr bleidleisio er mwyn i’r bleidlais fod yn ddilys.
Rhaid i’r bleidlais gyrraedd mwyafrif o ddau draean (66.6%) er mwyn i’r bleidlais gael ei phasio.
Pe bai’r ymgyrch dros swyddog llawn amser yn llwyddiannus, fe fyddai e/hi yn cael ei (h)ethol y gwanwyn nesaf, ac yn dechrau ar y gwaith fis Mehefin y flwyddyn nesaf.
Byddai’r swyddog yn aelod o dîm sydd eisoes yn cynnwys y Llywydd, Swyddog Addysg, Swyddog Cymdeithasau a Gwasanaethau, a Swyddog Lles.