Mae dynes wedi cael ei darganfod yn farw ar gopa’r Glyder Fawr, Dyffryn Ogwen.

Daeth tîm achub o hyd i’w chorff ar glogwyn, am naw o’r gloch fore ddydd Gwener (Mai 4).

Roedd y ddynes wedi bod yn cerdded ar ben ei hun, a’r gred yw bod hi wedi llithro a chwympo – mae lle i gredu mai dynes yn ei 40au o dde Cymru oedd hi.

Llwyddodd Tîm Achub Dyffryn Ogwen i gael gafael arni’n gyflym oherwydd yr oedd wedi bod yn anfon negeseuon i’w ffrind cyn iddi ddisgyn.

Cafodd ei chludo gan hofrennydd i ysbyty ym Mangor, lle wnaethon nhw gadarnhau ei bod wedi marw.