Mae disgwyl tywydd cynnes dros Ŵyl y Banc, gyda rhagolygon yn dweud mai’r dydd Llun fydd y poethaf erioed a’r tymheredd hyd at 28C.

Y tro diwethaf i ddydd Llun Gŵyl y Banc ar ddechrau mis Mai gyrraedd tymheredd mor uchel oedd 23 o flynyddoedd yn ôl, yn 1995.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, bydd hi’n benwythnos braf i’r rhan fwyaf o Gymru.

“Bydd y rhannau helaeth o Gymru a Lloegr yn mwynhau tymereddau yn yr 20au drwy gydol y penwythnos, a’r tywydd gorau yn y De-ddwyrain,” meddai Sophie Yeomans o’r Swyddfa Dywydd.

Fydd yr Alban a Gogledd Iwerddon ddim mor lwcus – bydd hi’n oerach gyda glaw mewn rhai mannau.