Bydd tri phrosiect cymunedol o Gymru yn derbyn miloedd o bunnoedd er mwyn helpu’u hardaloedd lleol.

Daw’r arian o gronfa £150,000 gan y Loteri Genedlaethol, ac aeth pum prosiect cymunedol yn benben amdani.

Mae’r arian wedi cael ei ddyfarnu ar y cyd â’r Gronfa Loteri Fawr a’r ITV, fel rhan o gynllun sydd bellach yn 13 blwydd oed.

Y prosiectau

  • Gwyliau Hapus gan 3D Kids, yn Ynys Môn: £49,300
  • Ain’t No Mountain High Enough gan Cardiff People First: £36,412
  • Global Gardens gan The Trinity Project yng Nghaerdydd: £49,241

Datblygu

“O bentrefi gwledig i drefi a dinasoedd, mae pobl leol yn cydweithio i helpu ei gilydd i fyw bywydau mwy hapus ac iach,” meddai Joe Ferns, Cyfarwyddwr Ariannu Deyrnas Unedig y Gronfa Loteri Fawr:

“Rydym yn gyffrous iawn i weld yr enillwyr eleni’n defnyddio grantiau’r Loteri Genedlaethol i ddatblygu eu prosiectau ymhellach.”