Mae Aelod Cynulliad wedi beirniadu adroddiad i ward iechyd meddwl yn Sir Ddinbych, lle bu farw sawl claf.

Ddoe, daeth yr adroddiad i’r casgliad bod safon y gofal yno wedi bod yn “dda ar y cyfan” sy’n gwrthddweud casgliadau ymchwiliad blaenorol. Y Gwasanaeth Ymgynghorol tros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HASCASS), oedd yn gyfrifol am yr adroddiad diweddara’ hwn.

Mi gaeodd ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, ym mis Rhagfyr 2013, ac fe alwodd un ymchwiliad blaenorol am “waith sylweddol” i wella safonau yno.

Ond mae’r AC Darren Millar, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, yn dweud bod angen cael ymchwiliad newydd annibynnol ac yn dweud bod yr adroddiad diweddaraf yn codi mwy o gwestiynau nag  y mae’n ateb.

Fe ddywedodd y bydd llawer yn holi “pa mor annibynnol oedd y broses sydd wedi arwain at gyhoeddi’r adroddiad.”

“Fe ddylai unrhyw sefydliad sydd â chysylltiadau gyda Llywodraeth Cymru neu’r Blaid Lafur ac sy’n ymwneud a gwaith sensitif o’r math hwn fod a dyletswydd i ddatgelu hynny yn syth.”

Mae’r methiant i wneud hynny yn yr achos yma, meddai, wedi golygu bod yr adroddiad “wedi tanseilio hyder teuluoedd Tawel Fan bod hyn yn ymgais wirioneddol i fynd at y gwir.”

Mae’r AC wedi galw am ymchwiliad trawsbleidiol gan y Cynulliad i sicrhau “ein bod yn darganfod beth ddigwyddodd unwaith ac am byth.”

“Pwyllo”

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi dweud ei fod am i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fynd ati’n gyflymach i wneud gwelliannau mewn nifer o feysydd, yn sgil yr adroddiad ddydd Iau (3 Mai) ynglŷn â’r gofal yn ward Tawel Fan.

Ond dywedodd bod angen pwyllo cyn dod i gasgliadau am “yr anghysondeb ymddangosiadol” rhwng casgliadau ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chanlyniadau adroddiadau cynharach.

“Roedd gan ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori gylch gwaith llawer ehangach ac, yn wahanol i’r adroddiad blaenorol, bu modd iddo edrych ar gyfres gynhwysfawr o ddogfennau, gan gynnwys cofnodion clinigol, a manteisio ar arbenigedd penodol ym maes iechyd meddwl,” meddai.

Ychwanegodd Vaughan Gething ei fod y hyderus y bydd y canfyddiadau “yn sbardun i wasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd allu camu allan o’r cysgod sydd wedi ei daflu drostynt ers blynyddoedd bellach.”