Mae golygydd yr Herald Cymraeg yn rhoi’r gorau iddi, ar ôl bod yn y swydd ers 1994.
Fe ddaeth y cyhoeddiad ym mhedair tudalen Gymraeg y cyhoeddiad y tu mewn i’r Daily Post heddiw (dydd Mercher, Ebrill 18).
Mae Tudur Huws Jones yn hanu o Langefni ym Môn, ac wedi bod yn newyddiadura ers ymuno â staff yr Herald yn 1989.
Mae hefyd yn adnabyddus fel cerddor gyda’r grwpiau Cilmeri, 4 yn y Bar, Gwerinos a’r Cynghorwyr; a fo ydi cyfansoddwr y gân boblogaidd, ‘Angor’.
Fe gyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o’r Herald Cymraeg yng Nghaernarfon yn 1855, ond mae dyfodol y tudalennau wedi bod yn ansicr ers rhai blynyddoedd, wrth i gwmni Trinity Mirror gau swyddfa Caernarfon a thorri’n ôl ar adnoddau.
Fe fydd Tudur Huws Jones yn gorffen yn y gwaith ddydd Gwener yr wythnos hon (Ebrill 20), gyda’i rifyn olaf yn dod o’r wasg ddydd Mercher nesaf.