Mi fydd pum grŵp cymunedol yn mynd benben â’i gilydd wrth iddyn nhw geisio ennill hyd at £50,000 gan y Loteri Genedlaethol.

Mi fydd sylw yn cael ei roi i’r grwpiau, sydd am wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau, ar raglen newyddion ITV Cymru dros gyfnod o bum noson yn ystod yr wythnos nesaf.

Ar yr un pryd, mi fydd y cyhoedd yn cael cyfle i ddewis eu ffefryn, wrth i’r bleidlais agor am naw y bore ar ddydd Llun (Ebrill 16).

Y pum grŵp

 Y grwpiau a’u prosiectau sy’n cystadlu yw:

  • ‘Ain’t No Mountain High Enough’ gan Cardiff People First – eisiau £36,412 i redeg Her Bannau Brycheiniog a threfnu tripiau ar gyfer pobol ag anawsterau symudedd;
  • ‘Global Gardens Project’ gan The Trinity Project yng Nghaerdydd – eisiau £49,241 ar gyfer dod â ffoaduriaid a phobol leol ynghyd trwy gyfrwng garddio, coginio a bwyta;
  • ‘Green Team’ gan Brecon Active Inclusion Group o Aberhonddu – eisiau £19,821 er mwyn helpu pobol ifanc â phroblemau iechyd meddyliol a chorfforol;
  • ‘Happy Holidays’ gan 3D Kids o Ynys Môn – eisiau £49,300 i helpu pobol ifanc yng nghefn gwlad sydd ag anableddau difrifol;
  • ‘My Time To Be Me’ gan Amy And Friends o’r Rhyl – eisiau £49,750 i helpu pobol ifanc sydd ag aelod o’r teulu yn ddifrifol sâl.

Fe fydd y bleidlais yn dod i ben ddiwedd y mis (Ebrill 30), gyda’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ddydd Iau, Mai 3.