Mae cynlluniau ar waith i greu rhwydwaith o ‘draffyrdd’ i feiciau yn unig yng Nghaerdydd, gyda’r darn cyntaf o’r prosiect yn cael ei ddatgelu heddiw.

Fe fydd tri cham cynta’r cynllun yn costio tua £30m gyda’r bwriad fod y ‘draffordd’ gynta’n digwydd y flwyddyn nesa’.

Nod Rhwydwaith Traffyrdd Beicio Caerdydd yw cael mwy o bobol i seiclo yn y brifddinas drwy ei gwneud hi’n fwy diogel.

Mae darn cyntaf y cynllun wedi’i ddatgelu heddiw, sef 1 cilomedr o lwybr beicio penodol yng nghanol y ddinas rhwng Cilgant San Andrew a Ffordd Senghennydd.

Dan y prosiect, bydd mwy o lwybrau fel hyn ledled y ddinas yn cael eu datblygu ar gyfer beicwyr yn unig.

‘Cam pwysig ymlaen’

Yn ôl Dafydd Trystan o Gaerdydd, sy’n Gadeirydd Hyfforddiant Beicio Cymru, mae’r cynllun yn gam ymlaen, sydd â’r potensial i newid diwylliant yn y brifddinas o ran y ffordd y mae pobol yn teithio.

“Mae’r [traffyrdd beicio] yn gam pwysig iawn ymlaen, maen nhw’n dda iawn ac mae’n gam i wneud Caerdydd yn ddinas feicio go iawn,” meddai wrth golwg360.

“Y cwestiwn yw faint o arian sy’n mynd i gael ei fuddsoddi ynddo fe, pa mor fuan mae e’n mynd i ddigwydd a beth sy’n mynd i ddigwydd mewn mannau eraill.”

“… Os ’ych chi’n gweld beth sy’n digwydd yn Llundain gyda’r superhighways [i feiciau] a’r Boris Bikes, mae pob elfen o hyn yn help ac yn gam ymlaen.

“Ac os ’ych chi’n cyrraedd pwynt lle mae gyda chi gymaint o bobol sy’n seiclo fel ei fod e’n normal, mae gyrwyr ceir yn disgwyl gweld beicwyr ac felly maen nhw’n fwy araf, maen nhw’n fwy gofalus a’r holl bethau yna.”

Angen ystyriaeth mewn datblygiadau eraill

Ond mae angen ystyried trafnidiaeth gynaliadwy ymhob rhan o isadeiledd Caerdydd, meddai, gan gyfeirio at ddatblygiad Cei Canolog, sef cyfres o fflatiau newydd sydd i fod cael eu hadeiladu yng nghanol y ddinas, ger Grangetown.

“Un peth sy’n fy nharo i er enghraifft yw’r datblygiad yn Central Quay, does dim fel petai lot o isadeiledd beicio yn cael ei roi mewn fan ‘na ar hyn o bryd.”

Roedd yn siomedig hefyd gyda’r penderfyniad i godi maes parcio aml-lawr yno hefyd, yn hytrach nag annog rhagor o bobol i adael eu ceir.

“Maen nhw’n symud ymlaen i’r cyfeiriad iawn, ond mae mwy i’w wneud,” meddai.