Mae tân yng ngorsaf drenau Cyffordd Llandudno yn achosi oedi i deithwyr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 7.10 fore heddiw.

Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad, ond mae disgwyl oedi ar drenau Arriva Cymru am weddill y bore.

Mae teithiau o Landudno a Chaergybi i Gaerdydd, Blaenau Ffestiniog, Manceinion, Birmingham a Euston yn Llundain wedi’u heffeithio.