Mae disgwyl hyd at 6,000 o redwyr yn y brifddinas ar gyfer Ras 10k Bae Caerdydd heddiw.
Dechreuodd y cyfan gyda ras 2k i’r teulu am 1o o’r gloch, a’r brif ras 10k yn dechrau am 11 o’r gloch.
Fe fydd nifer o ffyrdd yn y brifddinas – Rhodfa Lloyd George, Stryd Pierhead a Ffordd Gyswllt Ganolog – ynghau tan 1.30 y prynhawn yma.
Mae’r trefnwyr wedi gofyn i redwyr ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded neu seiclo er mwyn cyrraedd y man cychwyn.