Mae tua 2,500 o yrwyr yng Nghymru wedi cael eu dal yn gyrru dan ddylanwad cyffuriau, a hynny ers i gyfraith newydd ddod i rym yn 2015.
Mae’r gyfraith newydd yn golygu bod gyrru dan ddylanwad cyffuriau yn drosedd, ac mae’r hawl gan yr heddlu i gymryd profion ar ochr yr heol i weld os yw gyrrwr wedi cymryd cyffuriau anghyfreithlon neu beidio.
Nid yw’r profion, sy’n cael eu cynnal trwy gymryd sampl o lafoer, ond yn gallu adnabod cocên neu ganabis, ac mae rhai yn galw ar y Llywodraeth i ddatblygu system well.
Y ffigyrau
Ers i’r gyfraith newydd ddod i rym ym mis Mawrth 2015, mae 20,000 o yrwyr yng Nghymru a Lloegr wedi’u dal yn gyrru o dan ddylanwad cyffuriau, gyda 2,500 o’r rheiny yng Nghymru.
Heddlu Gogledd Cymru oedd y llu a wnaeth ddal y mwyaf, gyda 1,029 o bobol yn cael eu dwyn i’r ddalfa.
Fe wnaeth Heddlu Gwent wedyn ddal 662 o yrwyr; Heddlu De Cymru 575, a Heddlu Dyfed-Powys 262.
Mae Heddlu De Cymru wedi dweud bod y nifer o bobol sy’n cael ei dal o dan ddylanwad ar gynnydd.