Ar hyn o bryd, mae hi’n “ansicr” p’un a fydd cangen Plaid Cymru tref Llanelli yn bwrw ymlaen gyda’i digwyddiad i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni.

Y bwriad gwreiddiol oedd i aelodau ddod ynghyd ym mwyty Indiaidd y Sultan yng nghanol y dref nos yfory (dydd Iau, Mawrth 1). Ond mae ysgrifennydd y gangen, Howell Williams, yn dweud wrth golwg360 fod hynny’n “ansicr’ yn wyneb y ffrae rhwng y blaid yn lleol a’r prif swyddogion.

Mae’r gangen wedi’i ‘gwahardd’ ers i Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y blaid gyfarfod ddydd Sadwrn, Chwefror 17. Ac mewn neges gan Gareth Clubb, Prif Weithredwr Plaid Cymru, at aelodau’r gangen ddydd Sul, Chwefror 18, mae amodau’r gwharddiad yn cael eu hamlinellu fel hyn:

  • “Ni ddylai’r gangen wneud cyswllt pellach gyda’r wasg a’r cyfryngau, yn cynnwys cyhoeddi pethau ar y cyfryngau cymdeithasol – fe ddylai cyfrifon gael eu hatal dros gyfnod y gwaharddiad”
  • “Mae cyfarfod yn enw’r gangen hefyd wedi’i wahardd dros gyfnod y gwaharddiad”

Er hynny, mae poster y noson Dydd Gŵyl Dewi yn parhau ar dudalen Facebook cangen Plaid Cymru Llanelli, ac mae eitemau eraill wedi’u postio yno mor ddiweddar â Chwefror 25 – y diwrnod cyn cyfarfod rhwng aelodau’r gangen â rhai o brif swyddogion Plaid Cymru nos Lun (Chwefror 26).

Dydd Gŵyl Dewi / St.David's DayCroeso cynnes i bawbA very warm welcome to everyone#Llanelli Plaid Cymru

Posted by Plaid Cymru Llanelli on Wednesday, 21 February 2018