Mae Heddlu De Cymru’n apelio am wybodaeth am ddyn 67 oed o’r Barri sydd wedi bod ar goll ers wythnos.
Does neb wedi gweld Maldwyn Miles o’r Barri, sydd â chysylltiadau â Merthyr Tudful, ers dydd Iau, Chwefror 22.
Fe gafodd ei weld ddiwethaf yn ardal y Gurnos, ac roedd bryd hynny’n mynd i gyfeiriad Chwarel Morlais.
Mae’r heddlu’n ei ddisgrifio fel dyn tenau sydd dros bum troedfedd o daldra; yn gwisgo siaced felen lachar ac esgidiau glas tywyll.
Maen nhw’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar y rhif 101.