Mae tref a phentref yng nghanolbarth Cymru wedi cyrraedd rhestr fer o drefi sydd yn hwylus i gerddwyr.
Nod gwobr ‘Cymdogaethau Gorau Prydain i Gerdded’ yw dathlu trefi sydd yn “blaenoriaethu” cerddwyr, ac ymysg y deg sydd ar restr fer y wobr eleni mae’r Drenewydd a Llanllwchaearn ym Mhowys.
Yn ôl trefnwyr y wobr, elusen cerddwyr The Ramblers, bydd enillydd y wobr yn meddu ar lwybrau cerdded cyfleus, a gyda strydoedd sydd wedi’u cynllunio’n dda.
“Mae’r deg cymdogaeth ar y rhestr fer wedi eu cynllunio i flaenoriaethu pobol sy’n cerdded,” meddai Prif Weithredwr The Ramblers, Vanessa Griffiths.
“Rydym yn dathlu’r ardaloedd yma, ac yn galw ar awdurdodau lleol i feddwl am sut y gallan nhw gyflwyno newidiadau i wneud llefydd yn haws i gerddwyr.”
Y rhestr fer
- Diglis, Caerwrangon, Swydd Gaerwrangon
- DG1, Dumfries, yr Alban
- Hackney, Llundain
- Hastings Old Town, East Sussex
- Kirkby Stephen, Cumbria
- Y Drenewydd a Llanllwchaearn, Powys, Wales
- Salford, Manceinion
- Stocksbridge, De Swydd Efrog
- Town Moor, Newcastle upon Tyne
- Walthamstow, Llundain