Mae Llywodraeth yr Alban wedi rhybuddio bod amser yn brin iddyn nhw a Llywodraeth Cymru gytuno ar drefniadau Brexit gyda’r Llywodraeth yn Llundain.

Ac maen nhw wedi gwneud yn glir na fyddan nhw’n ildio ym mrwydr y ddwy wlad i wneud yn siŵr na fydd pwerau’n cael eu “cipio” gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Fe fydd cyfarfod ddydd Iau rhwng y gwahanol arweinwyr ac Ysgrifennydd Brexit, David Davis, er mwyn ceisio setlo’r anghydfod, gyda Llywodraethau Cymru a’r Alban yn mynnu bod rhaid i’r holl rymoedd perthnasol sy’n dod yn ôl o Ewrop gael eu datganoli ar unwaith.

‘Popeth yn ôl’

“Dydyn ni ddim yn barod i dderbyn bargen sy’n peryglu neu’n torri ar draws y trefniant datganoli presennol,” meddai llefarydd ar ran Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon.

“Mae ein safbwynt yn union fel o’r blaen, fod yr holl bwerau datganoledig sydd ar lefel Ewropeaidd yn cael eu datganoli yma.”

Mae Llywodraeth yr Alban yn cyhuddo’r Llywodraeth Geidwadol yn Llundain o fethu â chadw addewid i newid y Mesur Ymadael – ar hyn o bryd, mae’n sôn am symud pwerau i Lundain i ddechrau ac wedyn i’r llywodraethau yn y gwledydd unigol.