Mae dynes mewn cyflwr “difrifol ond sefydlog” yn dilyn gwrthdrawiad â cherbyd graeanu ffordd yng Nghaerdydd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol y Tollty – ar y gyffordd sy’n cysylltu’r stryd â Heol Eglwys Fair – am tua 9 o’r gloch neithiwr (Chwefror 15).

Roedd y ddynes ar gefn beic ar y pryd.

Bellach mae hi’n derbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, gydag anafiadau sy’n peryglu ei bywyd.

Dylai unrhyw un oedd yn dyst i’r ddamwain gysylltu â Heddlu De Cymru trwy alw 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 1800057822.