hithau’n ‘Ddydd Miwsig Cymru’ – diwrnod i ddathlu cerddoriaeth Cymraeg – mae un o sêr y sin yn cynnal gig mewn ysgol er mwyn “ysbrydoli” y genhedlaeth nesaf.

Er bod George Amor yn fwy adnabyddus i lawer fel canwr y band Omaloma, i ddisgyblion Ysgol Gynradd Bro Gwydir, Llanrwst, mae’r cerddor yn cael ei alw yn ‘syr’.

Ond, â heddiw’n ddiwrnod arbennig, mi fydd George Amor yn perfformio gig yn yr ysgol lle mae yn gweithio.

Yn ogystal â chynnal gig gyda’i fand, Omaloma, bydd y cerddor yn rhoi CD newydd sbon Casgliad Cae Gwyn i’r disgyblion yn rhad ac am ddim.

Ysbrydoli

“Os ydy o’n gallu ysbrydoli plant i ddechrau gwneud miwsig, mae hynny’n ffantastig,” meddai  George Amor am y gig wrth golwg360.

Nid yw’r cynorthwyydd dosbarth wedi perfformio i’r disgyblion o’r blaen, ac mae’n dweud ei fod ychydig yn “nerfus”,  ond mae’n ychwanegu bod ganddo ffans ymysg y plant.

“Mae ambell un yn dangos diddordeb yn Omaloma,” meddai. “Dw i jest ddim eisiau iddyn nhw ddiflasu.”

Yn dilyn perfformiad ysgol Omaloma prynhawn heddiw, bydd George Amor yn perfformio gyda Serol Serol mewn gig yn Galeri Caernarfon heno, gyda’r bandiau Adwaith a Chroma hefyd yn rhan o’r arlwy.

“Ffrwyth llafur” Cae Gwyn

Mae’r albym Casgliad Cae Gwyn yn cael ei gyhoeddi i nodi pen-blwydd label recordiau Cae Gwyn yn 10 oed. Mae Mr Huw, Dan Amor ac Omaloma ymysg yr artistiaid sydd ar y casgliad.

“Mae’n neis arddangos beth sydd wedi bod yn digwydd dros y 10 blynedd diwethaf,” meddai George Amor. “Dan fy mrawd sy’n gyfrifol am y label. Mae’n cyflwyno ffrwyth ei lafur o.”