Mae’n bwysig ein bod yn cofio’r hyn y mae menywod wedi’i gyfrannu at hanes Cymru.
Dyna farn yr hanesydd, Dr Elin Jones, ganrif i’r diwrnod (Chwefror 6, 1918) ers pasio Deddf Cynrychiolaeth y Bobol a roddodd y bleidlais i rai merched yng ngwledydd Prydain.
Mae’r academydd – sydd hefyd yn un o ymddiriedolwyr Archif Menywod Cymru – yn poeni am y duedd i “anghofio rhan menywod” mewn hanes.
“Rwy’n meddwl bod angen i ni feddwl llawer mwy am ein hanes ein hunain yng Nghymru, a chofio bod dwy ran i hanes – dynion a menywod,” meddai Elin Jones wrth golwg360.
“Mae’n bwysig ein bod yn clywed oddi wrth y ddwy ochr.
“Rwy’n teimlo ein bod yn tueddu i anghofio rhan menywod. Ac mae menywod hefyd yn tueddu i anwybyddu eu rhan nhw mewn hanes, ac i ddibrisio eu cyfraniadau nhw eu hunain yn aml iawn.
“Dw i’n gwybod pa mor aml mae pobol yn dweud wrtha’ i am lwyddiannau neu gampau mam-gu neu modryb. Ond does dim tystiolaeth ysgrifenedig gyda nhw oherwydd bod hynny ddim wedi cael ei ystyried yn bwysig.
“Mae nhw wedi cadw, efallai, papurau am eu tad-cu, ond dim papurau a thystiolaeth am fywydau eu mamau nhw.”
Cofeb yn y brifddinas
Mae Elin Jones yn rhan o ymgyrch i sefydlu cofeb i fenyw gref yng Nghaerdydd.
Gan eithrio cerflun o Buddug yn Neuadd y Ddinas, a cherfluniau o fenywod sy’n cynrychioli pethau fel teimladau ac awen, does dim un gofeb i fenyw hanesyddol yng Nghaerdydd, meddai.
“Yr unig greadur benywaidd sy’n cael ei goffau trwy gofeb yng Nghaerdydd yw Billy the Seal yn Victoria Park,” meddai Elin Jones.
Hyd yma mae rhestr fer o gant o fenywod “sy’n haeddu cael eu cofio a’i hanrhydeddu â chofeb” wedi ei llunio, gyda’r swffragét Margaret Haig Thomas a’r enillydd medal aur Olympaidd, Irene Steer, ymhlith yr enwau.