Mae cynlluniau ar y gweill i ailagor Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog, a hynny yn rhan o brosiect gwerth £65 miliwn.

Gobaith Ymddiriedolaeth y Gamlas a’r Afon yw ailagor y gamlas rhwng Pump Llociau yng Nghwmbran, a Barrack Hill yng Nghasnewydd, ynghyd â darn ohoni yn ardal Cwmcarn.

Hefyd mae yna bosibilrwydd y bydd y gamlas yn cael ei hymestyn i ymuno ag afon Wysg yng Nghrindau, Casnewydd, gyda’r gobaith o adeiladu marina.

Mae’r Ymddiriedolaeth ar hyn o bryd mewn proses o drafod gydag awdurodau lleol am nawdd, ynghyd â ffynonellau eraill.

Cynnal Ymgynghoriad

 Ar hyn o bryd, mae’r ymddiriedolaeth yn chwilio am ymgynghorwyr i gynnal adolygiad o’r cynlluniau a’r costau, gyda disgwyl y bydd angen tua £65 miliwn yn ystod y deng mlynedd nesaf.

 Mae rhannau o’r gamlas eisoes wedi’u hadfer, er nad ydyn nhw’n cael llawer o ddefnydd hyd yn hyn.

Ond mae nifer o rwystrau ar y gamlas, fel pontydd, yn golygu bod angen i’r ymgynghoriad ystyried faint o effaith fydd hyn yn ei gael ar y prosiect.

Mae’r ymddiriedolaeth hefyd yn gobeithio y bydd yr ymgynghoriad yn cynnig amserlen gwaith i’r prosiect, ynghyd â’r posibilrwydd o gael gwirfoddolwyr i fod yn rhan ohono – fel sydd wedi digwydd eisoes mewn rhai rhannau o’r gamlas.

Maen nhw’n credu y bydd y prosiect hwn yn adfywiad i’r gamlas, yn hybu bywyd gwyllt yr afon, ac yn creu swyddi o fewn yr ardal leol.