Mae Llywodraeth Cymru wedi ei barnu am wrthod cyhoeddi manylion ymchwiliad yn gysylltiedig â diswyddiad y diweddar Aelod Cynulliad, Carl Sargeant.

Fis Tachwedd y llynedd cafodd Carl Sargeant ei ddarganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah ychydig ddyddiau ar ôl cael i’w ddiswyddo o’r cabinet yn sgil honiadau o aflonyddu rhywiol.

Bellach mae llefarydd ar ran yr Ysgrifennydd Parhaol wedi cadarnhau bod ymchwiliad i’r ad-drefniant cabinet tyngedfennol hwnnw wedi dod i ben gan ddatgelu “nad oes tystiolaeth” y cafodd gwybodaeth ei rhyddhau i’r wasg yn ystod y broses.

“Mae’r ymchwiliad hwn yn awr wedi dod i ben a chanfu nad oes tystiolaeth bod  Llywodraeth Cymru wedi rhannu o flaen llaw unrhyw wybodaeth heb ei awdurdodi, sy’n ymwneud â’r adrefnu Gweinidogol diweddaraf,” meddai’r llefarydd.

“Cwestiynau pellach”

Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb trwy alw am ryddhau manylion yr ymchwiliad hwn, gan ddadlau bod “cwestiynau pellach” wedi codi ynglŷn â rhyddhau gwybodaeth i’r wasg.

“Er mwyn gwaredu’r pryderon sy’n parhau tros yr ymchwiliad hwn, dylai’r Ysgrifennydd Parhaol rhyddhau’r adroddiad i’r cyhoedd, ynghyd â’r holl dystiolaeth sydd yn cefnogi ei ganfyddiadau,” meddai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies.

Mae Andrew RT Davies wedi galw ar y Llywydd i ganiatáu cwestiwn i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ar y mater, i ofyn a oedd ef neu rywun dan ei awdurdod, wedi caniatáu rhyddhau gwybodaeth.

Mae llefarydd ar ran yr Ysgrifennydd Parhaol wedi dweud wrth golwg360 na fydd gwybodaeth bellach yn cael ei ddatgelu. Does dim sylw pellach i’w hychwanegu, yn ôl llefarydd ar ran Carwyn Jones.