Mae Heddlu’r Gogledd wedi eu beirniadu am y modd y buon nhw yn delio gyda dynes oedd yn cael ei cham-drin yn ddomestig cyn iddi gael ei llofruddio.

Cafwyd hyd i Emma Baum, 22, yn farw yng ngardd ei chartref ym Mhen-y-groes, Gwynedd, ym mis Gorffennaf 2016.

Roedd wedi dioddef anafiadau difrifol a chafodd ei chynbartner, David Davies, ei ddedfrydu i oes dan glo.

Bellach, mae’r corff sy’n goruchwylio heddluoedd, Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu [IPCC], wedi cyflwyno cyfres o argymhellion i Heddlu’r Gogledd er mwyn iddyn nhw ddelio ag achosion o gam-drin domestig yn well yn y dyfodol.

Fe wnaeth ymchwiliad yr IPCC edrych ar y cyswllt gafodd yr heddlu gydag Emma Baum rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2016.

Cyswllt â’r heddlu

Fe wnaeth Emma Baum gysylltu gyda’r heddlu am y tro cyntaf ar Ebrill 24, 2016 i ddweud bod David Davies wedi ymosod arni ac mai dyma’r trydydd tro iddo wneud hynny, er mai dyma oedd y tro cyntaf iddi roi gwybod i’r heddlu.

Yn ôl yr ymchwiliad, doedd y ffaith i Emma Baum honni i David Davies ei churo fwy nag unwaith ddim wedi cael ei ystyried fel rhan o broses asesu risg Heddlu’r Gogledd.

Cysylltodd Emma Baum â’r heddlu eto ar ddiwedd mis Mai i ddweud bod David Davies wedi dwyn ei chi, ond cafodd yr achos ei gau am ei fod yn cael ei ystyried yn “fater sifil”.

Fe wnaeth mam Emma Baum honni ei bod wedi dweud wrth ddau swyddog heddlu ar Orffennaf 17, 2016 ei bod yn poeni am ddiogelwch ei merch – ond doedd y ddau swyddog ddim yn gallu cofio cael sgwrs o’r fath.

Ystyriodd ymchwiliad yr IPCC alwad a gafodd ei gwneud gan aelod o’r cyhoedd ar Orffennaf 18, yn dweud bod dynes yn sgrechian. Fe wnaeth dau swyddog ymchwilio ger y safle lle’r oedd Emma Baum yn byw, ond doedden nhw ddim yn gallu gweld unrhyw beth a achosodd bryder.

Roedd corff Emma Baum yn ei gardd yng nghefn y tŷ, ac yn ôl yr IPCC, doedd y swyddogion heb ymchwilio’r lle yn ddigonol.

Mae’r argymhellion yn cynnwys gwella hyfforddiant ar sut i adnabod arwyddion o gam-drin domestig ac ystyried a gweithio gydag asiantaethau eraill i ddatblygu proses asesu risg gyson.

Mae swyddogion hefyd wedi cael hyfforddiant pellach i wella eu perfformiad yn y dyfodol.

“Ystyried yn ofalus”

Wrth ymateb ar ran Heddlu’r Gogledd, dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Gareth Pritchard: “Hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad â theulu a ffrindiau Miss Baum wedi cyfnod sydd wedi bod yn hynod anodd iddynt.

“Mae swyddogion heddlu yn gwneud gwaith anodd ac yn dod o dan lefel uchel o graffter sydd ond yn iawn. Mae argymhellion yr IPCC  wedi cael eu hystyried yn ofalus a gall pobol fod yn hyderus ein bod wedi rhoi mesurau mewn lle er mwyn ymdrin â nhw.”