Mae mam Kyle Vaughan, dyn 24 oed a aeth ar goll bum mlynedd yn ôl, wedi marw heb wybod beth ddigwyddodd i’w mab.

Aeth mab Mary Lucas ar goll pan oedd e’n 24 oed yn Rhagfyr 2012, ac fe gafwyd hyd i’w gar Peugeot 306 ar fin ffordd yr A467 rhwng Rhisga a Crosskeys yn sir Caerffili.

Fe ddechreuodd Heddlu Gwent ymchwilio i’w lofruddiaeth, ond does neb wedi cael ei gyhuddo. Mae ei ddiflaniad yn parhau’n ddirgelwch hyd heddiw.

Mae’r heddlu eisoes wedi bod yn astudio tystiolaeth sy’n cynnwys dros 10,000 o linellau ddata teleffôn, mwy na 200 awr o luniau camerâu cylch-cyfyng a thros 2,000 o ddarnau o’i eiddo.

Byw mewn gobaith

Cafodd ei fam ddiagnosis o ganser yr iau yn 2015, ac mi apeliodd hi o’r newydd am wybodaeth yn y gobaith o gael atebion cyn iddi farw, gan ddisgwyl y gallai golli ei bywyd o fewn wythnosau.

Dywedodd hi ar y pryd ei bod hi eisiau “rhoi angladd” i’w mab, a bod byw heb atebion “yn rhy greulon i’w amgyffred”.

Ond chafodd hi mo’r atebion, a bu farw Ddydd Calan yn 55 oed.