Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio wedi i ddyn ddioddef ymosod yn ei dŷ ei hun ym Mangor.

Fe ymosododd rhywun ar Paul Jones, 47, yn nheras Plas Llwyd am tua 5yp ddydd Llun, Rhagfyr 18.

Mae dyn 32 wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ac mae bellach wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol. Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.

Fe gafodd Paul Jones ei gludo i’r ysbyty echdoe (Rhagfyr 20), cyn cael ei drosglwyddo i Stoke lle mae o’n parhau i fod mewn cyflwr difrifol.

“Yn anffodu,s mae cyflwr y dyn i’w weld wedi gwaethygu ond mae’n derbyn gofal gan staff meddygol ac mae ei deulu gydag ef,” meddai’r Swyddog Ymchwilio, Arwel Hughes.

Mae heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd Paul Jones rhwng 9yb, Rhagfyr 18 a 1.30yp, Rhagfyr 20 i gysylltu â nhw.