Rhaid cynnal ail refferendwm tros Brexit er mwyn “cadarnhau” bod y cyhoedd o hyd yn awyddus, yn ôl Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn.
Refferendwm “ymgynghorol” oedd pleidlais 2016, meddai, ac mae’n dadlau bod barn y cyhoedd wedi newid cymaint bod angen dychwelyd i’r gorsafoedd pleidleisio.
Mae’n dweud bod polau piniwn yn dangos bod dros 50% o blaid cynnal ail refferendwm, ac mae’n nodi y byddai’r fath bleidlais yn “rhoi pŵer yn ôl i’r bobol”
Meddwl eto
“Roedd rhaid rhoi barn ddemocrataidd [gyda’r refferendwm cyntaf], ac rydym ni wedi gwneud hynny wrth ddechrau Erthygl 50,” meddai Paul Flynn wrth golwg360.
“Ond mae’r pethau rydym ni’n gweld yn awr yn hollol wahanol i’r sefyllfa oedd wedi ei [gynnig] i bobol oedd yn pleidleisio tua 20 mis yn ôl.
“A rhaid i ni feddwl unwaith eto. Ar y ddwy ochr, mae’r dewis wedi newid yn hollol. A dw i’n credu bod hi’n amlwg yn awr, bod mwyafrif o bobol yn y wlad [am weld ail refferendwm].”
“Celwyddau”
“Dewis rhwng dau set o gelwyddau” oedd refferendwm Brexit y llynedd, meddai: “Pobol oedd yn ofn ar un ochr, a phobol oedd yn dweud celwyddau ar yr ochr arall.”
O ran effeithiau Brexit ar Brydain mae’n tynnu sylw at fygythiadau o fewnforion o gig eidion sydd wedi ei drin â phelydrau ymbelydrol a chemegau.