Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi mynnu mai pwrpas eu siop ‘pop-yp’ dros dro ym Machynlleth yw “annog pobol” i ddefnyddio’u siopau llyfrau lleol.

Daw’r sylw yn sgil protestiadau gan berchnogion siopau llyfrau ym Machynlleth a Chaerdydd sy’n dadlau y dylai’r corff cyhoeddus gefnogi busnesau bach yn hytrach na chystadlu â nhw drwy godi siopau dros dro.

Fe gafodd y cwynion eu gwyntyllu am y tro cyntaf yng nghylchgrawn Golwg.

Dywedodd perchennog siop lyfrau Penrallt ym Machynlleth: “Dw i’n gwybod eu bod yn cefnogi siopau llyfrau, ond nid trwy gael safleoedd gwerthu.”

Yn achos Caerdydd, mae wedi dod i’r amlwg y bu’n rhaid i Gyngor Llyfrau Cymru gefnu ar gynlluniau i godi siop ‘pop-yp’ siop dros dro yn dilyn gwrthwynebiad gan berchennog siop lyfrau Octavos’s.

“Arbrawf”

Mae llefarydd ar ran Cyngor Llyfrau Cymru wedi dweud wrth golwg360 mai “arbrawf” yw eu siop dros dro ym Machynlleth a’i bod yn “annog pobl i ddefnyddio’u siopau llyfrau lleol”.

O ran y penderfyniad i sefydlu siop ym Machynlleth ond nid yng Nghaerdydd – er bu gwrthwynebiad yn y ddau achos – dywed y llefarydd eu bod wedi cytuno i gydweithio yn sgil trafodaethau.

Yn ôl Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause, penderfynodd y corff i beidio â sefydlu siop yng Nghaerdydd oherwydd doedd y “protocol o ran cyfathrebu” ddim yn ddigon da.

“Yn y dyfodol, byddaf yn sicrhau bod yr ymgynghori a wneir gyda’r sector yn cael ei wneud yn ddyfnach ac yn ehangach,” meddai mewn datganiad i gylchgrawn Golwg.

Hysbysebion

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi gwrthod yr honiad eu bod wedi gallu gwario arian mawr ar hysbysebion ar gyfer eu siop dros dro yn y papur lleol.

Ond maen nhw yn cydnabod eu bod yn hysbysebu llyfrau Nadolig mewn nifer o bapurau “ledled Cymru”.

Mae’r corff wedi dweud nad oes unrhyw gynlluniau ar gyfer codi rhagor o siopau ‘pop-yp’ dros dro.