Mae llanc a oedd wedi bygwth cynnal ymosodiad brawychol yng Nghaerdydd, wedi’i gael yn euog o bum cyhuddiad o droseddau brawychol.
Yn Llys y Goron Birmingham cafwyd y bachgen 17 oed o Rondda Cynon Taf, na ellir cyhoeddi ei enw oherwydd ei oedran, yn euog o baratoi ar gyfer gweithredoedd brawychol ym mis Mehefin eleni, dau gyhuddiad o annog brawychiaeth ar-lein a dau gyhuddiad o fod a chylchgronau propaganda’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn ei feddiant.
Cafodd y llanc ei arestio ym mis Mehefin ar ôl chwilio ar y we am fanylion o fesurau diogelwch ar gyfer cyngerdd y canwr Justin Bieber yng Nghaerdydd.
Roedd y bachgen, a oedd wedi cuddio cyllell a morthwyl yn ei fag ysgol, wedi cael ei radicaleiddio ar-lein, clywodd y llys.
Yn ystod yr achos, daeth i’r amlwg ei fod wedi ysgrifennu llythyr, a oedd i’w gyhoeddi ar ôl ei farwolaeth, yn dweud ei fod yn “filwr y Wladwriaeth Islamaidd,” a’i fod wedi ymosod ar Gaerdydd “oherwydd mae eich llywodraeth yn parhau i fomio targedau yn Syria ac Irac. Fe fydd rhagor o ymosodiadau yn y dyfodol.”
Roedd nodiadau y cafwyd hyd iddyn nhw yn ei feddiant hefyd yn nodi ei fod yn bwriadu defnyddio cerbyd a’i anelu’n fwriadol at gerddwyr yn ystod yr ymosodiad.
Roedd y bachgen wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 10 Ionawr.