Ar drothwy dwy flynedd ers cyflwyno deddf caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau, mae wedi dod i’r amlwg mai dim ond 11 person o Gymru sydd wedi elwa o dderbyn organau gafodd eu rhoi dan y ddeddf.

 

Ers 1 Rhagfyr, 2015, os nad yw oedolion yng Nghymru yn mynegi eu gwrthwynebiad i roi eu horganau ar ôl iddyn nhw farw, gall doctoriaid dybio i’r oedolion hynny roi eu caniatâd.

 

Ond mae rhaglen Y Byd ar Bedwar wedi canfod tystiolaeth sy’n awgrymu bod y newid cyfraith wedi gwneud braidd dim gwahaniaeth i bobl sy’n aros am organau yng Nghymru. Bwriad y polisi oedd cynyddu’r nifer o organau fyddai ar gael ar gyfer trawsblaniadau.

 

Mae meddygon yn dal i orfod cael cydsyniad teuluoedd cyn mynd ag organau claf er gwaetha’r gyfraith newydd.

 

“Siomi”

 

Fe ofynnodd rhaglen Y Byd ar Bedwar am ffigyrau am faint o bobl oedd wedi derbyn trawsblaniadau dan y ddeddf newydd. Yn ôl adran gwaed a thrawsblaniadau’r Gwasanaeth Iechyd, rhwng cyflwyno’r ddeddf ym mis Rhagfyr 2015 a diwedd Medi eleni, fe gafodd 80 organ eu rhoi dan y ddeddf i gyfanswm o 76 person – roedd 11 o’r rheiny yn Gymry.

 

Derbyniodd Llio Dudley o Garndolbenmaen aren gan ei chwaer ddwy flynedd yn ôl. Fel rhan o’r rhaglen, teithiodd hi ar draws y wlad yn gweld os oedd y newid cyfraith wedi gwneud gwahaniaeth i bobl oedd yn aros am organau.

 

Dywedodd hi: “O wneud y rhaglen yma ac edrych ar y gwahanol ystadegau a chyfarfod pobl wahanol, dwi wedi sylweddoli nad oes llawer o wahaniaeth o gwbl ers i’r gyfraith yma ddod i rym. Dwi wedi siomi.”

 

Optio allan

 

Dros y ddwy flynedd ddiwetha’ mae nifer y bobl yng Nghymru sy’n aros am drawsblaniadau wedi cynyddu 10% o 220 i 242.

 

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi gwadu bod yr ystadegau’n profi bod y ddeddf wedi methu.

 

Dywedodd Vaughan Gething: “Mae’n anodd dweud os oes ganddo unrhyw beth i’w wneud gyda’r polisi. Mae mwy o bobl wedi optio i mewn ond mae mwy o bobl wedi dewis optio allan hefyd. Ac mae’n gorfod bod yn wir achos roedd ofn gwirioneddol byddai’r wladwriaeth yn gwneud penderfyniad ar ran cleifion.”

 

Ychwanegodd Vaughan Gething ei fod yn gobeithio am welliant dros y blynyddoedd nesa.

 

Bydd Y Byd ar Bedwar: Aros yn ofer? yn cael ei darlledu heno (nos Fawrth, 21 Tachwedd) am 9.30yh ar S4C.