Mae’r heddlu yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ym Mro Morgannwg brynhawn ddydd Iau (Tachwedd 16).

Tarodd car Ford Focus yn erbyn cerddwr ar gyffordd rhwng heol y B4265 a Heol Eagle, Sain Tathan, am 6.39 yr hwyr.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod bachgen 13 oed wedi marw wedi’r gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu De Cymru trwy alw 101 a dyfynnu’r cyfeirnod *451694.