Mae milwr o Gaergybi a gafodd ei anrhydeddu â Chroes Fictoria ar ôl ei farwolaeth wedi cael ei gofio heddiw.
Cafodd carreg goffa i John Fox Russell ei dadorchuddio yn ystod y gwasanaeth Sul y Cofio blynyddol ger cofgolofn y dref.
Cafodd ei eni yng Nghaergybi ar Ionawr 27, 1893. Roedd y teulu’n byw yn 5, Teras Fictoria ac yno y bydd y garreg goffa’n cael ei dadorchuddio, bron ganrif union ers ei farwolaeth ar faes y gad ym Mhalesteina yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd y datganiad a ddaeth yn dweud ei fod yn derbyn Croes Fictoria yn dweud ei fod wedi ei derbyn “am ddangos dewrder o’r eithaf allan ar faes y gad hyd nes y lladdwyd”.
Fe eglurodd y cymorth a roddodd i’w gyd-filwyr “er gwaethaf blinder llethol” a chan ddangos “dewrder o’r radd uchaf”.
Seremoni
Roedd y seremoni ddadorchuddio’n rhan o gynllun Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol San Steffan i anrhydeddu 628 o unigolion a dderbyniodd Groes Fictoria am eu rhan yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Tref Caergybi a’r Llengfilwyr Prydeinig.
Cadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn, Richard Jones a Maer Caergybi, Ann Kennedy oedd wedi dadorchuddio’r garreg.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones: “Brwydrodd nifer o ddynion ifanc o Gaergybi ac Ynys Môn yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae’n bwysig iawn ein bod ni’n cofio ac yn anrhydeddu eu haberth dros ganrif yn ôl.
“Gwasanaethodd Capten John Fox Russell ei wlad mewn modd arwrol, a rhoddodd fywydau eraill yn gyntaf.
“Byddwn yn coffau ei fywyd a’i ddewrder, ac rwy’n siŵr y bydd Caergybi yn gwerthfawrogi’r garreg goffa newydd yma.”