Mae gohebiaeth rhwng cyfreithiwr a’r Blaid Lafur sydd wedi cael ei chyhoeddi gan deulu Carl Sargeant yn dangos nad oedd yr honiadau yn erbyn y cyn-Ysgrifennydd Cymunedau’n “ddifrifol iawn”.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn sgwrs ffôn rhwng yr Aelod Cynulliad a’i gyfreithwyr bum niwrnod yn ôl, ychydig ddiwrnodau cyn iddo gael ei ganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Conna.

Yn ôl yr ohebiaeth, roedd yr honiadau’n ymwneud â “sylw di-eisiau, a chyffwrdd neu balfalu amhriodol”.

Mae’r ohebiaeth hefyd yn cadarnhau nad oedd Carl Sargeant yn destun unrhyw ymchwiliad arall heblaw’r un gan y Blaid Lafur.

Llythyr y cyfreithiwr

Yn y llythyr gan y cyfreithiwr Huw Bowden Jones at Sam Matthews o’r Blaid Lafur, mae’n mynegi pryder am y ffordd yr oedd yr honiadau wedi cael eu trin gan swyddfa Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Mae’n egluro nad oedd Carl Sargeant, hyd yn oed ar fore ei farwolaeth, yn ymwybodol o’r honiadau yn ei erbyn, er bod Carwyn Jones wedi cyfeirio at yr honiadau mewn cyfweliad â’r BBC.

Bryd hynny, dywedodd Carwyn Jones “nad oedd dewis heblaw cyfeirio’r achos at y blaid”.

Ond mae’r cyfreithiwr yn dweud bod y weithred honno’n “niweidio yr hyn sydd, yn honedig, yn ymchwiliad annibynnol” gan ei swyddfa.

Mae’n sôn bod “nifer fawr o bobol” wedi bod yn siarad â swyddfa Carwyn Jones a hyd yn oed wedyn, roedd Carl Sargeant yn dal yn y tywyllwch ynghylch union natur yr honiadau.

“Mae’n ymddangos bod posibilrwydd cryf iawn fod tystiolaeth y tystion yn cael ei chamdrin a bod yr amryw sgyrsiau gyda’r tystion gan amryw aelodau Swyddfa’r Prif Weinidog o leiaf yn creu ansicrwydd ynghylch hygrededd unrhyw dystiolaeth maes o law,” meddai wedyn.

Mae’r cyfreithiwr wedi gofyn am gofnod llawn o bob trafodaeth ynghylch yr honiadau yn erbyn Carl Sargeant, a bod y manylion llawn yn cael eu datgelu “ar frys”.

Ymateb y teulu

Mae datganiad teulu Carl Sargeant yn cyfeirio at yr “amharodrwydd parhaus” i ddatgelu natur yr honiadau yn ei erbyn, ac yn egluro mai am y rheswm hwnnw maen nhw wedi penderfynu cyhoeddi’r ohebiaeth.

“Hyd at ei farwolaeth drasig fore dydd Mawrth, doedd Carl ddim wedi cael gwybod am fanylion yr un o’r honiadau yn ei erbyn, er gwaetha’r ceisiadau a’r rhybuddion ynghylch ei les meddyliol.

“Mae’r ohebiaeth hefyd yn mynegi pryder y cyfreithiwr fod ymddangosiadau yn y cyfryngau gan y Prif Weinidog ddydd Llun yn niweidio’r ymchwiliad.

“Hoffai’r teulu ddatgan y ffaith fod Carl yn parhau i bwysleisio’i fod yn ddieuog a’i fod yn gwadu’n llwyr iddo wneud unrhyw beth o’i le.

“Roedd y straen o fethu ag amddiffyn ei hun yn iawn yn erbyn yr honiadau amhenodol hyn yn golygu na chafodd gwrteisi, parch na chyfiawnder naturiol.”