Mae’r gwasanaethau brys yn dweud na chafodd tân mewn tŷ anghysbell ym Mhen Llŷn ei gynnau’n fwriadol.

Cafodd y frigâd dân ei galw i Bantywennol ger Mynytho yn fuan wedi 6yb ddydd Mawrth (Hydref 31), ac fe gymrodd hi rai oriau i ddod â’r fflamau dan reolaeth.

Ni chafodd neb ei anafu gan nad oedd neb yn byw yn y tŷ haf ar y pryd, ond mae difrod mawr wedi’i wneud i’r adeilad.

“Yn dilyn ymchwiliad i’r tân mewn tŷ ym Mynytho ger Pwllheli ar Hydref 31, nid yw’r heddlu na’r gwasanaethau tân wedi medru darganfod yr achos,” meddai datganiad gan y gwasanaethau bryd.

“Ond nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu hyd yn hyn fod y tân wedi ei gynnau’n fwriadol.”