Mae dyn wedi ei arestio heddiw gan yr heddlu sy’n ymchwilio i lofruddiaeth dyn arall yng Nghwmbrân.

Dywedodd Heddlu Gwent fod Barry Bowyer, 37 oed, wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.

Daw ei arestiad ar ôl i’r heddlu ddweud fod ganddo Daw ei arestiad ar ôl i’r heddlu ddweud fod ganddo “wybodaeth bwysig” ynglŷn â marwolaeth y dioddefwr.

Daethpwyd o hyd i’r corff ar Stryd Harold, Pontnewydd, Cwmbrân, brynhawn ddoe.

Ychwanegodd yr heddlu eu bod nhw wedi dod o hyd i Ford Mondeo gwyn yr oedden nhw’n edrych amdano, yng Nghasnewydd.

Mae’r heddlu hefyd yn holi menyw 26 oed ar amheuaeth o lofruddio.