Nick Bourne
Roedd Ceidwadwyr Cymru wedi ystyried newid eu henw i un Cymraeg yn unig, ‘Ymlaen’, ar un cyfnod, yn ôl y cyn-arweinydd Nick Bourne.

Daw ei sylwadau wedi i’r ffefryn i arwain y Blaid Geidwadwol yn yr Alban ddweud y hoffai chwalu’r blaid a dechrau plaid adain dde o’r newydd.

Roedd enw’r blaid yn ‘wenwynig’ yn yr Alban ac y peth gorau i’w wneud fyddai dechrau eto gydag enw newydd, meddai Murdo Fraser.

Heddiw datgleodd Nick Bourne fod Dirprwy Lywydd Presennol y Cynulliad, David Melding, wedi cynnig newid enw’r blaid i ‘Ymlaen’.

“Roedden ni wedi ystyried newid yr enw ar un cyfnod,” meddai Nick Bourne wrth raglen Sunday Supplement Radio Wales.

“Mae syniadau David Melding fel arfer yn dda iawn ond doeddwn i ddim yn credu fod newid i’r enw Cymraeg ‘Ymlaen’ yn syniad da.

“’Dydw i erioed wedi clywed y fath nonsens, nid yna’r ffordd i’w gwneud hi,’ meddwn i.

“Fe benderfyn ni newid y blaid yn yr un modd a David Cameron, sef ei wneud yn blaid tecach.”