Ysbytyr Brifysgol yng Nghaerdydd
Mae Heddlu De Cymru’n holi gyrrwr fan ar ôl i ddyn gael anafiadau difrifol i’w ben mewn digwyddiad ger Merthyr.
Mae’n ymddangos fod y dyn 38 oed wedi syrthio allan trwy ddrysau cefn y fan wrth iddi yrru o amgylch cylchdro rhwng Pentrebach a Throedyrhiw.
Roedd y fan Iveco wen yn teithio o gyfeiriad Troedyrhiw ger ffatri Lindt ychydig cyn un o’r gloch brynhawn ddoe.
Mae’r dyn a anafwyd yn cael ei drin yn Ysbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd ac, yn ôl yr heddlu, mae ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod.