Uwch Gynghrair Lloegr

Wayne Hennessey (Wolves) Chwarae 90 munud + eilydd heb ei ddefnyddio Gêm lawn i Hennessey wrth i’w dîm guro Fulham 2-0. Roedd dan bwysau am lawer o’r gêm felly bydd yn falch i beidio ag ildio gôl.

Ar y fainc wrth i Dorus de Vries gael gêm yn erbyn Northampton yn y Gwpan Carling – ei gôl gyntaf i  Wolves ers Ebrill 2009.

 

David Edwards (Wolves) Wedi’i anafu. Dal i ddioddef o anaf i’w gefn ond mae Mick McCarthy yn ei ddisgwyl nôl unrhyw bryd.
Sam Vokes (Wolves) Heb ei ddewis  + 90 munud Dim gêm yn erbyn Fulham yn y gynghrair ond gêm lawn a gôl ddwy funud o’r diwedd yn erbyn Northampton yn  y Gwpan Carling.
James Collins (Aston Villa) Chwarae 90 munud Dechrau yng nghanol yr amddiffyn wrth i Villa guro Blackburn 3-1 yn y gynghrair. Heb ei ddewis yn y gêm Cwpan Carling yn erbyn Henffordd ganol yr wythnos.
Danny Gabbidon (OPR) Chwarae 90 munud Gêm lawn i’r amddiffynnwr wrth i QPR ennill eu gêm gyntaf o’r tymor yn erbyn Everton. Ar ôl ildio 4 yr wythnos flaenorol bydd yn hapus i beidio ag ildio.

Heb ei ddewis yn y gêm Gwpan Carling yn erbyn ROchdale ganol yr wythnos.

Sam Ricketts (Bolton) Wedi’i anafu  
Gareth Bale (Tottenham) Chwarae 90 munud Gêm dawel wrth i Man U roi cweir 3-0 i Spurs.
Ashley Williams (Abertawe) Chwarae 90 munud x 2 Yn gapten yng ngêm gartref gyntaf Abertawe yn yr Uwch Gynghrair. Fe ildiodd gic o’r smotyn gyda thacl flêr, ond yn lwcus wrth i’r golwr ei achub gydag arbediad gwych.

Gêm lawn yn y gêm Gwpan Carling siomedig yn erbyn Yr Amwythig. Fe ymddiheurodd i’r cefnogwyr ar Twitter ar ôl colli 3-1.

Neil Taylor (Abertawe) Chwarae 90 munud Dychwelodd o waharddiad i chwarae gêm lawn fel cefnwr chwith yn erbyn Wigan.

Heb ei ddewis yn erbyn Yr Amwythig.

Joe Allen (Abertawe) Chwarae 15 munud a chwarae 90 munud Eilydd yn lle Leon Britton yn erbyn Wigan.

Gêm lawn wrth i’w dîm golli yn erbyn Yr Amwythig yn y Gwpan Carling nos Fawrth.

David Cotterill (Abertawe)   Heb ei ddewis yn erbyn Wigan nac Yr Amwythig.
David Cornell (Abertawe)   Heb ei ddewis yn erbyn Wigan nac Yr Amwythig.
Danny Collins (Stoke City) Eilydd heb ei ddefnyddio. Ar y fainc ond dim ymddangosiad yn erbyn Norwich.
     
Craig Bellamy (Man City) Heb ei ddewis Dyfalu’n parhau am ei ddyfodol wrth iddo gael ei gysylltu â Lerpwl yr wythnos hon.

 

 

 

Aaron Ramsey (Arsenal) 90 munud x 2 Anlwcus iawn i sgorio gôl i’w rwyd ei hun wrth golli 2-0 yn erbyn Lerpwl.

Gêm lawn arall yn erbyn Udinese yn rownd ragbrofol Cwpan y Pencampwyr.

Andrew Crofts (Norwich City) 90 munud a heb ei ddewis Yn cadw’i le yng nghanol cae Norwich wrth iddyn nhw sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Stoke ddydd Sadwrn.

Yn falch i beidio a bod yn rhan o golled 4-0 Norwich yn erbyn MK Dons yn y Gwpan Carling nos Fawrth!

Steve Morison (Norwich City) Heb ei ddewis + 27 munud Heb ei ddewis yn erbyn Stoke ac yn eilydd yn erbyn MK Dons yn y Gwpan Carling.
David Vaughan (Sunderland) Eilydd heb ei ddefnyddio + 83 munud Heb ddod i’r cae yn y gêm ddarbi danbaid yn erbyn Newcastle ond yn gwneud ei ymddangosiad cystadleuol cyntaf yn erbyn Brighton yn y Gwpan Carling. Gweithgar yng nghanol y cae ond bydd yn siomedig i Sunderland golli 1 – 0.
Rhys Taylor (Chelsea) Heb ei ddewis  
Adam Henley (Blackburn Rovers) Heb ei ddewis  
David Jones (Wigan) Eilydd heb ei ddefnyddio Ar y fainc yn erbyn Abertawe ond heb ddod i’r maes.

 

Pencampwriaeth Lloegr

Boaz Myhill (Birmingham) Chwarae 90 munud Dechrau yn y gôl yn erbyn Middlesborough ond bydd yn siomed i ildio tair wrth i Birmingham golli 3-1

 

 

 

Chris Gunter (Nottm Forest ) Chwarae 90 munud x 2 Gêm lawn wrth i Forest sicrhau pwynt gyda sgôr 2 -2 yn erbyn  Caerlŷr.

Roedd Gunter yn yr amddiffyn wrth i Forest guro Wycombe 4-1.

Neal Eardley (Blackpool) Eilydd – chwarae am 32 munud Daeth y cefnwr i’r cae wedi 58fed munud gyda sgôr derfynol o 2-2 yn erbyn Brighton.
Lewin Nyatanga (Dinas Bryste) Chwarae 90 munud  x2 Roedd Nyatanga yng nghanol yr amddiffyn a wrthododd ildio gôl i Portsmouth  mewn gêm gyfartal 0-0.

Gêm lawn yn erbyn Swindon yn y Gwpan Carling hefyd. 

James Wilson (Dinas Bryste) Chwarae 90 munud  x 2 Cadwodd Wilson ei le yng nghanol yr amddiffyn gyda Nyatanga yn erbyn Porsmouth, gan chwarae gêm lawn yn y golled 1-0 yn erbyn Swindon hefyd.
Christian Ribeiro

 Dinas Bryste)

Wedi’i Anafu Mae Ribeiro yn dal i ddioddef o anaf i’w gefn a gafodd nôl ym mis Mehefin.
Darcy Blake (Caerdydd) Eilydd arno am 21 munud

Chwarae am 120 Munud.

Daeth Blake i’r maes fel eilydd yn y gêm gyfartal yn erbyn Burnley ddydd Sadwrn.

Chwaraeon gêm lawn yn y gêm Gwpan Carling yn erbyn Huddersfield, gyda Chaerdydd yn ennill 5-3 wedi amser ychwanegol.

Robert Earnshaw (Caerdydd) Chwarae 75 munud

Eilydd heb ei ddefnyddio

Sgoriodd Earnie y 200fed gôl o’i yrfa yn y gêm gyfartal yn erbyn Burnley ddydd Sadwrn.

Ni ddaeth i’r cae yn y gêm Gwpan Carling nos Fawrth.  

John Oster (Doncaster) Chwarae 90munud x 2 Colli wnaeth Doncaster yn erbyn Derby o 3-0.

Yn chwarae yng nghanol cae yn erbyn Leeds yn y gwpan ond colli wnaeth Doncaster o 2-1.

Brian Stock (Doncaster) Wedi’i anafu Ni chwaraeodd Stock yr wythnos hon oherwydd anaf yw bigwrn.
Jack Collison (West Ham) Chwarae 58 munud 58 munud arall i Collison wrth iddo geisio adennill ei ffitrwydd. Fe’i adawyd allan o’r tîm a gollodd i Aldershot Dean Holdsworth yng nghanol yr wythnos.  

hhH

Andy King (Caerlŷr) Chwarae 83 munud.

Eilydd – ymlaen wedi 63 munud.

Chwaraeodd King y mwyafrif o’r gêm gyfartal yn erbyn Caerlŷr.

Daeth King i’r cae ar ôl 63 munud wrth i Gaerlŷr guro Bury 4-2. King greodd y gôl olaf i Neil Dans. 

Jermain Easter (Crystal Palace) Chwarae 90 munud.

Eilydd heb ei ddefnyddio

Derbyniodd Easter garden felen yn ystod y gêm yn erbyn Hull wrth i Palace ennill 1-0.

Ni ddaeth i’r maes yn erbyn Crawley yn y gêm Gwpan Carling.

 Andy Dorman (Crystal Palace) Eilydd – ymlaen wedi 63 munud. Chwarae 90 munud. Roedd Dorman yn eilydd wrth i Palace guro Hull ac fe chwaraeodd gêm lawn yn y Gwpan Carling wrth i Palace guro Crawley 2-0.
Lewis Price ( Crystal Palace ) Eilydd

Chwarae 90 munud

Ni chwaraeon Price yn erbyn Hull ond cafodd gêm lawn yn erbyn Crawley.
Simon Church (Reading) Eilydd – ymlaen wedi 84 munud.

Chwarae 90 munud

Braf gweld Church yn dychwelyd o anaf gydag ymddangosiad cwta o’r faint yn erbyn Barnsley.

Chwaraeodd gêm lawn yn y Gwpan Carling yn erbyn Charlton nos Fawrth ond colli wnaeth Reading.

Hal Robson-Kanu (Reading) Chwarae 90 munud

Eilydd – ymlaen wedi 63 munud

Mae Robson-Kanu yn dechrau selio ei le yn nhîm Reading gyda gêm lawn arall yn erbyn Barnsley dros y penwythnos.

Daeth i’r cae yn erbyn Charlton hefyd.

Ben Turner (Coventry City) Anaf Mae Turner yn dal i ddioddef o anaf i’w benglin – fe fydd yn ôl yn chwarae yng nghanol mis Medi.
Freddy Eastwood (Coventry) Eilydd – ymlaen wedi 63 munud. Dim goliau i Eastwood wrth iddi ddarfod yn ddi-sgôr yn erbyn Watford.
Ryan Williams (Portsmouth)            – .
Grant Basey (Peterborough)             –  
Gareth Roberts (Derby County) Eilydd heb ei ddefnyddio  
Rob Edwards (Barnsley) Chwarae 90 munud Roedd Edwards yn yr amddiffyn wrth i Barnsley guro Reading  2 – 1.
Craig Davies (Barnsley) Chwarae 90 munud Gêm lawn ond dim goliau i’r ymosdwr mawr yn erbyn Reading.

 

Yr Alban

       
Adam Matthews (Celtic) Chwarae 90 munud

Eilydd heb ei ddefnyddio.

Wythnos siomedig i’r cefnwr ifanc. Gêm lawb yn erbyn ST Johnston wrth i Celtic golli o 1-0.

Collodd ei le yn y tîm ar gyfer gêm Cwpan Europa Celtiv yn erbyn FC Sion o’r Swistir, gyda’i dîm yn colli eto.  

 

 

 

Joe Ledley (Celtic) Chwarae 74 munud

Chwarae 88 munud

Dechreuodd Ledley y gêm siomedig yn erbyn St Johnstone dros y penwythnos.

Bu’n rhaid iddo chwarae’r mwyafrif o’r gêm Cwpan Europa fel cefnwr chwith ar ôl i Daniel Majstorovic gael ei yrru o’r maes yn y munudau agoriadol.

David Stephens (Hibernian) Chwarae 90 Munud Gêm lawn yng nghanol yr amddiffyn yn erbyn St Mirren.
Kyle Letheren (Kilmarnock) Ddim yn y garfan  

 

 

 

 

Jason Brown (Aberdeen ) Eilydd heb ei ddefnyddio  

 

 

 

 

Owain Tudur Jones (Inverness) Wedi’i anafu Fe gafodd Jones anaf i’w benglin yn erbyn Rangers, ac mae bellach wedi cael triniaeth. Er hynny, mae disgwyl iddo fod allan am 6-8 wythnos.

 

Arall

Troy Brown (Rotherham United) Chwarae 90 munud Sgoriodd Brown wedi’r hanner yn gêm gyfartal yn erbyn Barnet.

 

 

 

Jake Taylor (Aldershot) Chwarae 10 munud

Chwarae 55 munud

Daeth i’r maes fel eilydd yn y golled 2-0 yn erbyn Morcambe yn y gynghrair, ond y fe ddechreuodd y gêm yn erbyn West Ham wrth i Aldershot sicrhau buddugoliaeth wych.

 

Billy Bodin (Swindon Town)   Ar ôl dechrau dwy gêm gyntaf y tymor mae’r ymosodwr wedi symud i Torquay United tan 8 Ionawr.
Rhoys Wiggins (Charlton) Chwarae 90 munud Gêm cyfartal yr oedd hi rhwng Charlton a Scunthorpe efo’r gêm yn gorffen 2 gôl yr un.