Leszek Kaba
Mae Heddlu De Cymru wedi croesawu dedfryd o bum mlynedd o garchar sydd wedi ei rhoi i leidr a fu’n ymosod ar wragedd oedrannus.
Maen nhw’n dweud bod y gyfres o droseddau yn ardal Merthyr wedi cael effaith fawr ar yr ardal ar y pryd.
Fe gafodd Leszek Kaba, 44 oed, sy’n dod o Wlad Pwyl, ei garcharu am gyfanswm o bum mlynedd am ymosod ar chwech o wragedd a dwyn eu bagiau llaw.
Roedd pump o’r rheiny ar wragedd tros 70 oed a thri ar rai yn eu 80au. Yn yr achos ola’ roedd y wraig wedi cael ei hanafu hefyd.
Roedd wedi pledio’n euog ym mis Gorffennaf i’r troseddau a ddigwyddodd ym misoedd Ebrill a Mai.
‘Effaith ofnadwy’
Yn ôl yr heddlu, roedd wedi cael ei ddal oherwydd gwaith tîm arbennig o dda trwy nodi patrwm yn yr ymosodiadau a rhagweld beth fyddai symudiad nesaf y lleidr.
“Fe gafodd y troseddau effaith ofnadwy ar y gymuned ar y pryd,” meddai’r Sarjiant Damien Mckeon. “Ond fe ddangosodd pobol leol wytnwch eithriadol a dycnwch wrth helpu i adnabod y person.
“Dylai pobol allu teimlo’n hyderus yn awr yn eu hawl i fynd o gwmpas eu pethau gan deimlo’n ddiogel a saff yn y llefydd sy’n gyfarwydd iddyn nhw ers blynyddoedd lawer.”