Muammar al-Gaddafi (James Gordon CCA 2.0)
Dyw hi ddim yn glir a yw gwrthryfelwyr yn Libya wedi llwyddo i gipio dinas allweddol sydd o fewn cyrraedd i Tripoli.

Mae Llywodraeth Libya’n gwrthod honiad eu bod wedi colli gafael ar y rhan fwya’ o az-Zawiyah sydd 30 milltir i’r gorllewin o’r brifddinas ac ar lan y Môr Canoldir.

Mae’r gwrthryfelwyr eu hunain yn honni eu bod wedi meddiannu tua thri-chwarter y ddinas allweddol ac, yn ôl asiantaeth newyddion Al Jazeera, mae hynny’n bosib.

Mae az-Zawiyah’n un o ddwy ddinas sy’n cael eu targedu gan y gwrthryfelwyr er mwyn atal un o’r llwybrau y mae’r Llywodraeth yn eu defnyddio i ddod â chyflenwadau i Tripoli.

Yn ôl llefarydd ar ran yr Arlywydd Muammar Gaaddafi, mae eu gafael ar az-Zawiyah’n parhau’n cwbl sicr.