Mae Maer Caerdydd wedi dweud ei fod yn ffyddiog na fydd terfysg Lloegr yn lledu i Gymru.
Cadarnhaodd yr heddlu eu bod nhw wedi delio â pedwar digwyddiad nad oedd yn gysylltiedig ym mhrifddinas Cymru neithiwr.
Roedden nhw’n cynnwys ymgais at ladrata o siop chwaraeon, a tanau mewn dau adeilad gwag.
Ond dywedodd y Cynghorydd Delme Bowen nad oedd y terfysg “yn yr un cae” a’r problemau yn Llundain, Birmingham, Manceinion a Bryste.
“Rydw i’n deall y bydd rhai pobol yn pryderu ar ôl clywed adroddiadau am beth ddigwyddodd yng Nghaerdydd neithiwr, yng nghyd destun y terfysg yn Lloegr,” meddai,
“Ond does yna ddim terfysg wedi’i drefnu yng Nghaerdydd nac unrhyw ran arall o Gymru chwaith.
“Rydw i’n hollol siwr y bydd pobol Cymru yn parhau i barchu eu cymunedau.
“Yn amlwg fe fydd yr awdurdodau yn parhau i gadw llygad ar beth sy’n mynd ymlaen ac os oes unrhywbeth yn digwydd fe fyddwn nhw’n mynd i’r afael ag ef yn y modd priodol.”
Mân drafferthion
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, fod Llywodraeth Cymru yn parhau i gadw llygad ar beth sy’n digwydd yn Lloegr.
“Beth sy’n bwysig ydi bod beth sy’n digwydd yn Lloegr yn dod i ben a fod pobol yn gallu bwrw ymlaen â’u bywydau,” meddai.
“Rydw i’n gobeithio, wrth gwrs, y bydd gan bobol Cymru mwy o barch at y cymunedau y maen nhw’n byw ynddynt.”
Yn y cyfamser mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i’r “mân drafferthion” yng Nghaerdydd neithiwr.
Dywedodd llefarydd eu bod nhw’n ymchwilio i ladrata mewn siop JD Sports ym Mae Caerdydd, a difrod troseddol mewn siop prydau parod ar Stryd Orllewinol y Bont-faen.
Cafodd tanau bychan mewn dau adeilad gwag yn Nhre Biwt a Treganna eu diffodd gan y gwasanaeth tân.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y troseddau yng Nghaerdydd neithiwr ffonio Heddlu De Cymru ar 01656 655 555.