Am y tro cyntaf yr wythnos yma, fe ymwelodd dros 20,000 o bobl â’r Eisteddfod ddoe, diwrnod braf a heulog gyda’r haul yn tywynnu’n boeth trwy’r dydd.

Mae hyn yn cymharu â thua 17,000 ddydd Mawrth a 16,000 ddydd Llun.

Mae’r 20,000 o ymwelwyr yn sylweddol uwch na’r 16,000 ar y dydd Mercher ym Mlaenau Gwent y llynedd, ond gryn dipyn yn llai nag yn y Bala y flwyddyn cynt pryd y daeth bron i 25,000 ar y maes.