Aled Roberts
Mae’n annerbyniol fod gogledd ddwyrain Cymru yn cymryd baich datblygiadau tai enfawr er mwyn diogelu llain las Swydd Gaer.
Dyna farn yr Aelod Cynulliad a cyn arweinydd Cyngor Wrecsam, Aled Roberts, a fydd yn traddodi darlith flynyddol y Sefydliad Materion Cymreig ar Faes yr Eisteddfod heddiw.
Yn ei ddarlith Gwleidyddiaeth y Gororau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru bydd yr AC, sydd hefyd yn gadeirydd pwyllgor gweithredol yr Eisteddfod eleni, yn dweud nad yw pobol yr ardal o blaid y datblygiadau tai yno.
“Mae ymgynghoriadau ar draws gogledd Cymru wedi dangos nad yw’r bobol yma o blaid parhau â’r datblygiadau sydd wedi digwydd dros yr 20 mlynedd diwethaf,” meddai.
“Mae angen i wleidyddion yng Nghaerdydd ail-feddwl eu strategaeth os ydyn nhw eisiau i’r gogledd-ddwyrain chwarae rhan flaenllaw mewn datganoli.
“Fy nghred i yw bod cryfder y Blaid Lafur yn y gogledd ddwyrain yn y gorffennol wedi arwain at ddiffyg atebolrwydd yn yr ardal.
“Mae angen gwrthsefyll y temtasiwn i ganoli grym yng Nghaerdydd fel bod pobol gogledd ddwyrain Cymru yn gallu teimlo fod ganddyn nhw ddylanwad go iawn ar eu lle nhw o fewn y Gymru newydd.”
Cyfuno siroedd
Dywedodd nad oedd pob rhan o’r gogledd-ddwyrain wedi croesawu’r datblygiadau tai i’r un graddau.
“Mae Sir y Fflint wedi bod yn barod i dderbyn ei le fel rhan o is-ardal Lerpwl, ond doedd Sir Ddinbych fyth yn cael ei ystyried yn rhan o’r polisi.
“Yn y cyfamser roedd Wrecsam wedi gwneud penderfyniad gwleidyddol yn 2007 i beidio â bod yn rhan o’r cynllun.”
Ond roedd yna bryder y bydd “polisi cyfredol Llywodraeth Cymru o annog awdurdodau lleol i gyfuno neu gydweithio yn atal gallu ardaloedd gwahanol i adlewyrchu dyheadau gwleidyddol lleol”.
Ychwanegodd fod diffyg sefydliadau yng ngogledd ddwyrain Cymru wedi arwain at dueddiad i “gydweithio ar draws y ffin yn hytrach nag i’r gorllewin”.