Mae merch 13 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad car.

Gwrthdarodd y ferch oedd ar gefn beic a’r car VW Golf ar yr A550 ger Dobshill, Sir y Fflint, ddydd Gwener.

Fe fuodd hi farw yn y fan a’r lle.

“Am 3.15pm ddydd Gwener cafod yr heddlu eu galw i wrthdrawiad rhwng cerbyd a seiclwr ar yr A550, ffordd Caer,” meddai’r heddlu.

“Fe fuodd y seiclwr, merch 13 oed, farw o ganlyniad i’w hanafiadau. Ni chafodd y bobol oedd yn y car eu hanafu.”

Mae crwner dros-dro gogledd-ddwyrain Cymru, John Gittins, wedi cael gwybod. Bydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal heddiw neu yfory.

Dylai unrhyw un welodd y gwrthdrawiad, neu sydd ag unrhyw wybodaeth arall ffonio 101 neu 0845 607 1002.