Lesley Griffiths
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd £2.8 miliwn yn cael ei wario ar ganolfan ddialysis newydd i gleifion arennau yng ngogledd Powys.

Fe fydd yr uned newydd, sy’n cynnig lle i 12 o gleifion ar y tro, yn cael ei chodi ar dir Ysbyty Coffa Victoria, Y Trallwng, a’r nod yw cael y gwasanaeth yn barod i gleifion erbyn Hydref 2012.

Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, y cyhoeddiad heddiw wrth ymweld â’r cyfleuster dros dro sydd yn Ysbyty Coffa Victoria.

“Mae’r cyfleuster dros dro yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau llawer iawn o gleifion arennau ar draws gogledd Powys. Mae wedi arbed teithiau hir tu allan i Bowys i gleifion sydd angen  dialysis cyson,” meddai.

“Gall gwaith ar yr uned bwrpasol ddechrau nawr gan roi adeilad parhaol ar gyfer triniaeth. Mae hefyd yn golygu y bydd llai o bwysau  ar ysbytai fel y Royal Shrewsbury, oedd yn cymryd cleifion o’r ardal cyn bod dialysis ar gael yn lleol”.

Fe ddywedodd bod Llywodraeth Cymru’n buddsoddi arian i wella mynediad cleifion i ofal gwasanaethau dialysis.