Un o sawl protest dros Ysgol y Parc
Mae dyfodol Ysgol y Parc ger y Bala yng Ngwynedd yn y fantol unwaith eto, ddeufis wedi i Gyngor Gwynedd bleidleisio i’w chau.

Bu rhieni a chefnogwyr yn brwydro’n ddyfal i geisio achub yr ysgol, sydd ag 19 o ddisgyblion.

 Yn ôl y Cyngor byddai cau yn arbed £70,000 y flwyddyn, a’r disgyblion yn cael eu hanfon i ysgol gyfagos yn Llanuwchllyn.

Fel rhan o’r cynllun i ad-drefnu addysg yr ardal roedd Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am arian i greu ‘Cymuned Ddysgu Gydol Oes’ ar safle’r Ysgol Uwchradd yn y Bala, ynghyd ag arian i wella cyflwr ysgolion cynradd gwledig Ffridd y Llyn, Bro Tryweryn ac Ysgol Gynradd O.M. Edwards yn Llanuwchwllyn lle’r oedd plant y Parc i fod i fynd.

Ond mewn datganiad ddydd Mercher fe ddywedodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews fod yn rhaid i bob cyngor sir geisio eto am arian cyfalaf i wella ac addasu ysgolion.

Dan y drefn wreiddiol roedd Cyngor Gwynedd yn gorfod darparu 30% o’r gôst o wella cyflwr yr ysgolion, ond yn ôl rheolau newydd Leighton Andrews fe fydd angen i gynghorau sir ddod o hyd i 50% o’r arian.

Ar adeg pan mae Cyngor Gwynedd eisoes yn chwilio am arbedion sylweddol, mae marc cwestiwn dros y cynllun ad-drefnu addysg yn y Bala.

Yn ôl deilydd Portffolio Addysg Gwynedd, Liz Saville Roberts,  maen “rhy fuan i ddweud beth fydd y ffordd ymlaen”, ac mi fydd angen i Fwrdd Rheoli’r cyngor drafod datganiad Leighton Andrews yn fewnol cyn penderfynu cyflwyno cais o’r newydd am arian i ad-drefnu addysg ardal y Bala.

‘Creu ansicrwydd’

Tra’n derbyn bod gan Lywodraeth Cymru lai o arian cyfalaf i’w wario ar brosiectau fel codi ysgolion newydd, mae’r Cynghorydd Liz Saville Roberts yn siomedig na chyhoeddodd Leighton Andrews unrhyw fanylion am y drefn o ail-gyflwyno ceisiadau.

“Rydan ni’n aros am amserlen, ac mae ychydig yn siomedig ein bod heb ei gael gyda’r datganiad – mae’n creu ansicrwydd,” meddai’r Cynghorydd Plaid Cymru.

Angen ail-drafod

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae angen i gyfarfod llawn o Gyngor Gwynedd drafod y penderfyniad i gau Ysgol y Parc unwaith eto, am bod y rheolau ceisio am arian wedi newid.

“Nid dyma’r cynlluniau y pleidleisiodd cynghorwyr Gwynedd drostynt, a rhaid iddynt gael cyfle i ail-drafod yn y siambr llawn,” meddai Ffred Ffransis, llefarydd addysg y Gymdeithas.