Mae tîm Pêl-droed rhyngwladol Cymru wedi suddo i’r 114eg safle yn y byd, yn ôl ystadegau swyddogol Fifa – un safle o dan yr Ynysoedd Faroe.

Daw’r newyddion fod Cymru wedi eu darostwng un lle, wedi i fyfyriwr Gwyddorau Gwleidyddol o’r Ynysoedd Faroe dynnu sylw’r corff llywodraethu – Fifa – at gamgymeriad mathemategol yn y rhestr detholion diweddaraf.

Sylweddolodd Jakup Emil Hansen y dylai fod gan Ynysoedd Faroe 0.07 pwynt yn fwy na Chymru wedi iddynt drechu Estonia 2-0 yn ddiweddar.

Mae’r ddwy wlad yn gydradd 114eg yn y byd ar 273 pwynt, ond erbyn hyn, mae’r Ynysoedd Faroe wedi’u rhestru o flaen y Cymry.

Gall yr embaras o gael ein rhestru’n is na gwlad sydd a prin 100,000 o bobl ynddi fod yn ddigon i rai, ond mae potensial yma i’r newid gael dylanwad ar ymgyrch Gary Speed a’i garfan i ennill lle yng Nghwpan y Byd Brasil, 2014.

Bydd y rhestr nesaf yn cael ei gyhoeddi ar Orffennaf 27ain, ac mi fydd hwnnw’n arwyddocaol o ran trefnu’r detholion cyn i’r grwpiau rhagbrofol ar gyfer yn Rio de Janeiro gael eu tynnu o het ddeuddydd yn ddiweddarach.