Gemau Cymru'r Urdd yng Nghaerdydd dros y penwythnos
Mae’r Urdd yn gobeithio y bydd eu gŵyl chwaraeon genedlaethol yn dod yn rhan parhaol o’r calendr chwaraeon blynyddol yng Nghymru.
Dywed y mudiad i’w gŵyl aml chwaraeon Gemau Cymru 2011 yng Nghaerdydd y penwythnos diwethraf brofi’n llwyddiant mawr.
Mae’r prosiect eisoes wedi’i ariannu ar gyfer y tair blynedd nesaf.
Fe fu plant a phobl ifanc o wahanol rannau o Gymru’n cystadlu mewn naw o wahanol gampau mewn nifer o leoliadau a chanolfannau chwaraeon arbenigol ar draws y brifddinas. Roedd y campau yma’n cynnwys athletau, canŵio, nofio, pêl-droed i ferched, rygbi 7 bob ochr i fechgyn a thriathlon ymysg eraill.
Roedd y chwaraeon i gyd yn cael eu cefnogi, eu rheoli a’u dyfarnu gan eu Corff Llywodraethu perthnasol.
Diben Gemau Cymru yn ôl yr Urdd yw “rhoi llwyfan cenedlaethol i’r bobl ifanc berfformio, a rhoi cyfle i’r cyhoedd weld sêr Gemau Olympaidd y dyfodol ar eu tir eu hunain gan greu etifeddiaeth weledol i Chwaraeon Cymru yn sgil Gemau Olympaidd 2012.”
Meddai Gary Lewis, Cyfarwyddwr Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru:
“Bu penwythnos Gemau Cymru yn llwyddiant mawr, gyda dros 1000 o athletwyr ifanc yn cymryd rhan mewn naw camp wahanol.
“Heb amheuaeth roedd sêr y dyfodol yma, a’r mwyafrif yn cymryd rhan mewn gŵyl aml chwaraeon am y tro cyntaf. Bydd hynny ynddo’i hun yn werthfawr iddyn nhw wrth iddyn nhw weithio tuag at gael eu dewis i gystadlu dros Gymru yn y dyfodol.”
“Mae’r ŵyl, a gafodd eu noddi gan noddwyr i’r Gemau Olympaidd yn sicrhau gwaddol yng Nghymru i’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.”