Thomas Søndergård
Dyn o Ddenmarc fydd prif arweinydd newydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Fe fydd Thomas Søndergård yn cychwyn ar ei swydd ym mis Medi 2012.
Ar hyn o bryd, mae’n Brif Arweinydd ac yn Ymgynghorydd Cerddoriaeth Cerddorfa Radio Norwy.
Mae’n cymryd yr awenau gan Thierry Fischer o’r Swistir sy’n arwain ei dymor olaf.
Mae Thomas Søndergård yn adnabyddus am ei ddehongliadau o repertoire cyfoes Llychlyn ac mae ei recordiadau cerddorol yn cynnwys nifer o sgorau symffonig.
Fe gafodd ei recordiad diweddaraf ei gyhoeddi (Concerto Ffidil Sibelius a Concerto Ffidil Cyntaf Prokofiev) gyda Vilde Frang a cherddorfa WDR Köln ar EMI yn 2010 a chafodd adolygiadau rhagorol.
Fe wnaeth Søndergård ei ymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn nhymor 2009/10.
Croesawu’r penodiad
“Mae’n bleser mawr croesawu Thomas Søndergård ar ran y Gerddorfa fel ein Darpar Brif Arweinydd. Bydd Thomas yn dod i’w swydd ym mis Medi 2012 ac rydym eisoes wedi eistedd i lawr gyda’n gilydd i gynllunio cyfres o gyngherddau cyffrous at dymor cyntaf Thomas,” meddai David Murray, Cyfarwyddwr Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
“Mae cyfuno rhagoriaeth unig gerddorfa symffoni broffesiynol Cymru â disgleirdeb Thomas Søndergård yn nod cydweithrediad creadigol newydd cyffrous i gynulleidfaoedd gael blas arno,” meddai Keith Jones, rheolwr BBC Cymru Wales.
Wrth edrych ymlaen at ei swydd newydd, meddai Thomas Søndergård:
“O’r cychwyn cyntaf roeddwn yn teimlo perthynas glòs â’r ensemble selog yma ac mae’n anrhydedd aruthrol i mi gael fy ngwahodd i fod yr arweinydd cerddorol nesaf arno. Felly, gyda phleser o’r mwyaf edrychaf ymlaen at ddod i’m swydd yn Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC y flwyddyn nesaf.”